Beth mae'r Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn ei olygu ar gyfer cyllid yn eich ardal chi?

Cyhoeddwyd 07/02/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dweud mai’r cyllid ar gyfer awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf yw "un o’r setliadau cyllidebol gorau ers cychwyn datganoli, gan gydnabod yr heriau sylweddol sy’n parhau i fod ar gyllidebau cyngor”. Yn yr erthygl hon rydym yn edrych ar y cynnydd o 9.4 y cant ar gyfer cyllid refeniw craidd awdurdodau lleol yn 2022-23 a'r pwysau sy'n wynebu llywodraeth leol.

Bydd yr holl awdurdodau lleol yn cael cynnydd o 8.4 y cant o leiaf yn 2022-23

Cyllid Allanol Cyfun, sef y cyllid refeniw craidd a ddyrennir ar draws y 22 o awdurdodau lleol bob blwyddyn, yn £5.1 biliwn yn 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o £437 miliwn, neu 9.4 y cant, o'i gymharu â 2021-22. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai nag 8.4 y cant.

Mae'r cynnydd canrannol mwyaf ar gyfer Sir Fynwy (11.2 y cant) a'r isaf ar gyfer Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf (8.4 y cant). I roi’r cyd-destun, y newid cyffredinol rhwng 2020-21 a 2021-22 oedd cynnydd o 3.8 y cant, y cynnydd mwyaf i awdurdod lleol unigol oedd 5.6 y cant yng Nghasnewydd.

Ffigur 1: Newid dros dro mewn Cyllid Allanol Cyfun yn ôl awdurdod lleol (2021-22 i 2022-23)

Blaenau Gwent 8.4%, Rhondda Cynon Taf 8.4%, Caerffili 8.5%, Ceredigion 8.6%, Castell-nedd Port Talbot 8.8%, Gwynedd 8.8%, Merthyr Tudful 9.0%, Sir Ddinbych 9.2%, Sir y Fflint 9.2%, Pen-y-bont ar Ogwr 9.2%, Ynys Môn 9.2%, Sir Gaerfyrddin 9.2%, Torfaen 9.3%, Abertawe 9.3%, HOLL AWDURDODAU LLEOL 9.4%, Sir Benfro 9.4%, Wrecsam 9.4%, Powys 9.5%, Conwy 9.5%, Casnewydd 10.2%, Bro Morgannwg 10.6%, Caerdydd 10.7%,  Sir Fynwy 11.2%.

Ffynhonnell: Setliad refeniw a chyfalaf Llywodraeth Leol 2022 i 2023 Ymchwil y Senedd a Llywodraeth Cymru

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans AS, yn disgrifio hyn fel setliad "da", ond mae'n cydnabod na fydd yn gwrthdroi effaith llymder a bydd angen i lywodraeth leol "wneud rhai penderfyniadau anodd" wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn amcangyfrif bod gwariant wedi lleihau 6.0 y cant mewn termau real rhwng 2009-10 a 2019-20, gyda gwerth grantiau'r llywodraeth i awdurdodau lleol yn gostwng 16.8 y cant mewn termau real yn y cyfnod hwnnw.

A yw’r setliad hwn yn well na'r disgwyl?

Mae Prif Economegydd Llywodraeth Cymru’n disgrifio sefyllfa gyllidebol gyffredinol Llywodraeth Cymru fel un "llai llwm na'r disgwyl", a dywedodd Dadansoddi Cyllid Cymru mai tanosodiad oedd hyn. Mae Adroddiad y Prif Economegydd 2021 yn amlinellu £1.8 biliwn ychwanegol o gyllid craidd o ddydd i ddydd i Lywodraeth Cymru yn dilyn Cyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref 2021. Cyfeiriodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y setliad fel un eithriadol o hael.

Am y tro cyntaf ers 2017, mae gan Lywodraeth Cymru setliad aml-flwyddyn hefyd, sy'n ei galluogi i roi dyraniadau cyllideb dangosol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn rhywbeth y galwyd amdano gan gyrff llywodraeth leol a'r Pwyllgor Cyllid yn ystod gwaith craffu blaenorol ar y gyllideb.

Er bod y dyraniadau cyllid craidd dangosol ar gyfer 2023-24 a 2024-25 yn dangos cynnydd yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol, nid yw'r cynnydd hynny mor fawr ag a welwyd yn 2022-23. Disgwylir i'r cyllid craidd ar gyfer llywodraeth leol gynyddu £177 miliwn (3.5 y cant) yn 2023-24 a £128 miliwn (2.4 y cant) yn 2024-25. Ni fydd symiau gwirioneddol ar gyfer awdurdodau lleol unigol ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn hysbys tan yn nes at yr amser.

A yw cyllid cyn cael ei ddarparu at ddiben penodol?

Nid yw'r brif elfen o gyllid a ddyrennir drwy'r setliad wedi'i neilltuo, sy'n golygu bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn o ran sut maent yn ei wario. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog yn disgrifio cyflogau yn benodol fel sbardun ar gyfer y cynnydd eleni (gan gynnwys y costau staff sy'n gysylltiedig â'r cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol).

Yn ogystal â'r cyllid refeniw craidd, mae awdurdodau lleol yn cael grantiau gan Lywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig ag ardaloedd penodol. Mae cyfanswm grantiau refeniw dros £1 biliwn yn 2022-23, lefel debyg i'r llynedd (ac eithrio grantiau COVID-19).

Bydd cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol cael ei bennu ar £150m, sef gostyngiad o'r £198m a nodir yn y Setliad Terfynol ar gyfer 2021-22. At hynny, mae'r Gweinidog yn amlinellu grantiau cyfalaf penodol o £760 miliwn y flwyddyn nesaf, ac mae gwerth rhai grantiau heb eu cadarnhau eto.

Pa ffynonellau cyllid eraill sydd ar gael i awdurdodau lleol?

Y tu allan i gyllid y llywodraeth, mae gan awdurdodau lleol nifer o ffyrdd o gynhyrchu incwm. Un o'r rhai mwyaf sylweddol yw'r dreth gyngor, sydd wedi dod yn gyfran fwy o wariant awdurdodau lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru’n amcangyfrif bod y dreth gyngor wedi ariannu 20.4 y cant o wariant refeniw yn 2019-20, i fyny o 13.8 y cant yn 2009-10.

Mae awdurdodau lleol wrthi'n pennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, felly nid oes gennym ddarlun cyflawn eto o'r hyn a fydd yn digwydd gyda lefelau'r dreth gyngor ledled Cymru. Mae Cymdeihas Llywodraeth Leol Cymru yn awgrymu y byddai awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw codiadau'r dreth gyngor mor isel â phosibl, ond nododd hefyd fod angen i awdurdodau lleol ystyried amcanion tymor hwy wrth bennu'r dreth gyngor.

Nododd Archwilio Cymru hefyd fod gan awdurdodau lleol dros £1 biliwn o gronfeydd wrth gefn defnyddiadwy ar ddiwedd mis Mawrth 2020. Canfu fod pob cyngor wedi cynyddu nifer y cronfeydd wrth gefn a oedd ganddynt ar ddiwedd 2020-21, gyda £450m yn cael ei ychwanegu at gronfeydd wrth gefn cyffredinol. Er hynny, nododd fod defnyddio cronfeydd wrth gefn i gydbwyso'r gyllideb yn "annhebygol o fod yn gynaliadwy".

Pwysau gwariant

Mae arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Trysoryddion Cymru yn amcangyfrif pwysau costau o £407 miliwn y flwyddyn nesaf i awdurdodau lleol (ychydig dros £1 biliwn dros y tair blynedd). O fewn hynny, nodir mai chwyddiant cyflogau fydd yn rhoi’r pwysau mwyaf, ac ar ôl hynny, pwysau sy'n gysylltiedig â galw.

Nodir pwysau o £76 miliwn sy'n gysylltiedig â COVID-19 hefyd. Mae’r Gweinidog yn nodi nad oedd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant roi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer y pandemig a bod hyn yn destun pryder, yn enwedig yn sgil Omicron, gan ychwanegu:

Rwyf wedi ystyried yn ofalus sut i reoli’r cymorth ar gyfer y pandemig i awdurdodau lleol, ac wedi dod i’r casgliad mai’r dewis gorau yw darparu cyllid yn y flwyddyn gyntaf drwy'r setliad llywodraeth leol. Ond wrth benderfynu ar y setliad cyffredinol, rwyf wedi cydnabod effaith barhaus y pandemig ar wasanaethau, y bydd angen i awdurdodau eu rheoli.

Beth am gyllidebau mewn mannau eraill?

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyllid ar gyfer nifer o gyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Yn debyg i lywodraeth leol, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Setliad Dros Dro yr Heddlu tuag adeg ei chyllideb ddrafft a chyhoeddodd Setliad Terfynol yr Heddlu 2022-23 ar 2 Chwefror 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfran o wariant yr heddlu. Mae'r heddlu hefyd yn cael arian gan y Swyddfa Gartref a thrwy'r dreth gyngor.

Defnyddir fformiwla gyffredin sy'n seiliedig ar anghenion, a weithredir gan y Swyddfa Gartref, i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, mae'r Swyddfa Gartref wedi cyflwyno mecanwaith ar ben y fformiwla honno sy'n golygu y gall heddluoedd yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 5.9 y cant mewn cyllid craidd ar gyfer 2022-23 (cyn trosglwyddiadau).

Darllenwch ein herthygl a gyhoeddwyd ar 4 Chwefror i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.

Pryd gallaf gael gwybod am y setliad terfynol?

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol tua'r un pryd ag y mae'n cyhoeddi ei chyllideb ddrafft bob blwyddyn. Disgwylir y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 ar 1 Mawrth, felly byddwn yn cael Setliad Terfynol o gwmpas bryd hynny. Er y gallai'r ffigurau ar gyfer llywodraeth leol newid yn y cyfamser, awgrymodd y Gweinidog fod yr "holl gyllid sydd ar gael" wedi'i ddyrannu yn y Setliad Dros Dro.

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Ddrafft yfory (8 Chwefror). Y dydd Mawrth canlynol bydd yn trafod Setliad yr Heddlu (15 Chwefror). Gallwch wylio'r ddau yn fyw ar SeneddTV.


Erthygl gan Owen Holzinger a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru